Gallu di symud o amgylch mannau arbennig o’r wefan hon gan ddefnyddio ein map steil tiwb rhyngweithiol trwy glicio ar y botwm ‘llwybrau’ a ddangosir uchod ac ar bob tudalen.
Beth wyt ti eisiau?
Swydd llawn amser, arian yn dy boced a chymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol? Yna bydda’n Brentis ac enilla sgiliau mewn gwaith, cymwysterau a chael dy dalu.
Beth wyt ti am fod? Dere i gael mwy na swydd. Dere i gael profiad ymarferol, cymwysterau ac arian. Mae Prentisiaethau ar gael mewn bron a bod bob pwnc sy’n ymwneud â swydd.
Pa mor bell byddet ti’n mynd? Dechreua ar unrhyw oedran dros 16. Gallet ti hyfforddi mewn gwaith yr holl ffordd i fyny i lefel brifysgol – caria ‘mlaen i weithio, caria ‘mlaen i ennill. Symuda i fyny lefel, dysga mwy ac enilla mwy. Pa mor bell byddet ti’n mynd?