P’un ai byddwch chi’n penderfynu datblygu staff sydd gennych chi eisoes neu cymryd recriwt newydd ymlaen, byddant yn ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol a byddwch chi’n ennill gweithlu mwy ymatebol ac ysgogol.
Dyma rai o’r manteision a nodwyd gan gyflogwyr sydd wedi cymryd y llwybr Prentisiaeth i hyfforddiant a datblygiad:
Rydych chi’n cael gweithlu cymwys, profiadol a brwdfrydig – heb orfod talu am eu hyfforddiant
Nid oes angen i chi gyflwyno’r hyfforddiant chwaith – aem eich Coleg lleol yn gwneud hynny trosoch
Gallwch chi daclo prinder sgiliau mewn meysydd arbennig
Bydd yr hyfforddiant byddant yn eu cael yn hollol berthnasol i’ch sector diwydiant ac i anghenion eich busnes
Bydd y sgiliau byddant yn dysgu yn berthnasol ac yn gyfredol, a fydd yn cadw eich busnes i’r funud â’r dulliau a thechnolegau newydd
Mae’r Prentisiaethau’n dod yn weithwyr aml sgil gan ganolbwyntio ar y swydd gyfan ac nid dim ond ar agweddau arbennig o’r swydd
Byddwch chi’n buddsoddi yn nyfodol eich busnes yn ogystal â dod â syniadau a brwdfrydedd ffres i mewn i’ch cwmni
Mae profiad y cwsmeriaid yn gwella a chynyddir eu hyder trwy delio â staff hyfforddedig a phrofiadol
Mae cynhaliaeth staff yn debygol o wella – trwy ddangos ymrwymiad i’ch staff a chynnig cynlluniau hyfforddi a datblygiad gyrfa, mae ysbryd y staff, eu hyder, brwdfrydedd a theyrngarwch eich cwmni yn debygol o gynyddu