MWY AM FU3L?

Pwy sy’n talu?

Yr unig beth sy'n rhaid i chi dalu amdano yw cyflog y Prentisiaid. Telir am yr hyfforddiant gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a gweinyddir ef gan ELWa. Bydd Darparwyr Hyfforddiant cymeradwyol yn cael eu noddi gan ELWa i gyflwyno'r hyfforddiant a'r asesu. Bydd nawdd pob Prentis yn cael ei gytuno rhyngddo chi a'r Darparwr Hyfforddiant.

Bydd rhaid i chi wneud yn siwr hefyd fod amser yn cael ei roi i'r Prentis i wneud ei hyfforddiant. Gan ddibynnu ar y fframwaith a ddilynir, gallai'r hyfforddiant gymryd lle naill ai yn y gwaith neu yn y Coleg (diwrnod yr wythnos neu ryddhad bloc). Bydd rhaid i chi roi amser iddo yn y gwaith hefyd i wneud ei asesiadau ac i gasglu tystiolaeth ar gyfer portffolio ei NVQ.

Am fwy o wybodaeth, edrychwch ar wefan yr Adran Addysg a Sgiliau www.dfes.gov.uk.

I gael arweiniad ar faint y dylid talu Prentis, edrychwch ar www.tiger.gov.uk.