|
Cymrwch Brentis ymlaen a bydd Cynulliad Cymru’n talu am eu hyfforddiant. Gall unrhyw gwmni yng Nghymru – beth bynnag yw ei faint – gymryd rhan.
Bydd eich Coleg lleol yn trefnu’r hyfforddiant. Byddwch chi’n darparu’r profiad ymarferol, amgylchedd weithio ddiogel ac amser i’r Prentis ddysgu ei grefft. Bydd y Coleg yn gwneud y gweddill i chi.
Gellir hyfforddi Prentis i wneud y gwaith rydych chi am iddo wneud – i safonau a gydnabyddir gan y diwydiant. Bydd y sgiliau byddant yn dysgu o fudd uniongyrchol i’ch busnes.
Datblygwch staff sydd gennych chi eisoes neu recriwtio hyfforddedigion newydd. P’un bynnag ffordd, byddant yn ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol a byddwch chi’n ennill gweithlu mwy ymatebol ac ysgogol.
Mae Prentisiaeth ar gael ar lefel grefft, technegol a rheoli – mewn pob diwydiant gallwch chi feddwl amdano bron a bod.
Gallech chi leihau trosiant eich staff, ennill gweithlu medrus a brwdfrydig a chynyddu teyrngarwch eich cwmni.
A chael busnes sy’n dychwelyd. Bydd staff cymwys a gwybodus yn sicrhau bod eich cwsmeriaid yn dychwelyd.
Mae cyfleoedd hyfforddi ar gael yn y gweithle yr holl ffordd i fyny at lefel brifysgol. Gallai eich Prentis gario ymlaen i hyfforddi yn y gwaith tan fydd yn cael HNC, HND neu Radd Sylfaen.
Diddordeb? Ffoniwch 0845 345 1041
|