Mae gan bob Brentisiaeth ei fframwaith ei hun – pecyn o gymwysterau sy’n ymwneud â’r Brentisiaeth. Bydd eich
Coleg lleolyn gyfrifol am sicrhau bod y Prentis yn cael yr hyfforddiant sydd angen arno i gyflawni fframwaith y Brentisiaeth.
Mae fframwaith yn cynnwys 4 elfen:
NVQ
Sgiliau Allweddol
Tystysgrif Dechnegol
Hawliau a Chyfrifoldebau Gwaith
Datblygir y fframweithiau gan Gyngor Sgiliau Sector pob diwydiant a sector busnes. Ym mhob Cyngor Sgiliau Sector ceir cyflogwyr, undebau llafur a chyrff proffesiynol o feysydd busnes arbennig. Mae hyn yn sicrhau fod y cymwysterau a astudir yn rhai mae'r cyflogwyr eu hangenyn go iawn ac yn rhai a fydd yn rhoi'r sgiliau sydd angen ar y Prentis i fod yn aelod effeithiol o'r gweithlu.
Felly, i Brentis Modern Sylfaenol mewn Gweinyddiaeth Busnes mae’r fframwaith yn cynnwys:
NVQ 2 mewn Gweinyddiaeth
Sgiliau Allweddol mewn Cymhwysiad Rhif Lefel 1 a Chyfathrebu Lefel 2
Cymhwyster technegol megis Tystysgrif OCR mewn Gweinyddiaeth Busnes Lefel 2
Hawliau a Chyfrifoldebau Gwaith
Disgwylir i Brentis Modern Sylfaen mewn Siop Fara astudio:
NVQ 2 mewn Gwasanaeth Siop Fara
Sgiliau Allweddol Cymhwysiad Rhif Lefel 1, Cyfathrebu Lefel 2 a TG Lefel 1
Glanweithdra Bwyd, Iechyd a Diogelwch Sylfaenol a Hawliau a Chyfrifoldebau Gwaith
Ar ôl cwblhau pob un o gymwysterau’r fframwaith bydd y Prentis yn cael Tystysgrif neu Ddiploma yn dangos y cynllun a gyflawnwyd.