| Cwestiynau a Holir yn Aml |
|
Bydd rhaid i mi dalu?
Pwy all ddod yn Brentis?
Oes yna gynllun Prentisiaeth sy'n addas i fy musnes i?
Ydw i'n penderfynu ar ba fath o hyfforddiant sy'n cymryd lle?
Bydd angen i mi ddarparu'r hyfforddiant?
Pa gymwysterau bydd y Prentis yn ennill?
Pa mor hir bydd Prentisiaeth yn cymryd?
Pa waith papur bydd angen i mi wneud?
Sut gallaf recriwtio Prentis?
Mae'r hyfforddiant yn cael ei dalu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru felly ni fydd angen i chi dalu'r un dimau goch. Y cyfan sydd angen i chi dalu yw'r cyflog. Nid oes cyflog sefydlog ar gyfer Prentis - dylai'r cyflog adlewyrchu eu sgiliau, oedran a gallu. Bydd angen i chi roi amser i'r Prentis gwblhau ei hyfforddiant, yn y swydd a thu allan.
< Yn ôl i’r Brig
Cyn belled a'u bod yn frwdfrydig, yn barod i ddysgu ac yn barod i weithio'n galed, gall unrhyw un fod yn Brentis. Nid oes cyfyngiadau oedran a gall unrhyw gwmni yng Nghymru gymryd rhan.
Gall gweithiwr sydd gennych chi eisoes ddod yn Brentis hefyd - nid oes rhaid i chi gyflogi rhywun newydd.
Bydd eich Coleg lleol yn rhoi gwybodaeth i chi am bobl sydd â diddordeb mewn bod yn Brentis. Ffoniwch 0845 345 1041 i gael gwybod mwy.
Mae Prentisiaethau ar gael ar lefel grefft, technegol a rheoli mewn pob diwydiant gallwch chi feddwl amdano bron a bod - o Gyfrifeg i Drwsio Cerbydau Modur.
Am fwy o wybodaeth ffoniwch 0845 345 1041 a gofynnwch i siarad â chyd-drefnydd hyfforddiant yn y gweithle.
< Yn ôl i’r Brig
Ydych. Gall Prentis cael ei hyfforddi i wneud y gwaith rydych chi am iddynt wneud - i safonau a gydnabyddir gan y diwydiant - felly bydd y sgiliau bydd yn dysgu o fudd uniongyrchol i'ch busnes. Bydd y pecyn hyfforddi'n cael ei ddatblygu mewn trafodaeth â chi ac yn cael ei gyflwyno mewn ffordd a fydd yn fwyaf addas i'ch cwmni.
Gellir gwneud yr hyfforddiant naill ai yn y Coleg neu yn y gweithle. Byddwch chi’n penderfynu lle sy’n well gennych a bydd y Coleg yn ei drefnu.
< Yn ôl i’r Brig
Na, bydd y Coleg yn gwneud hynny. Byddwch chi'n darparu'r profiad ymarferol, yr amgylchedd weithio ddiogel a'r amser i'r Prentis ddysgu ei grefft. Bydd y Coleg yn gwneud y gweddill. Byddant yn rheoli'r hyfforddiant, yr asesiadau a'r gefnogaeth barhaus i'r hyfforddedig.
< Yn ôl i’r Brig
Bydd y cymwysterau penodol a enillir yn dibynnu ar y cynllun Prentisiaeth a ddilynir. Fel rheol bydd Prentis yn cyflawni NVQ, Sgiliau Allweddol a thystysgrif sy'n ymwneud â'r swydd.
Bydd lefel y cymhwyster yn dibynnu ar y math o gynllun Prentisiaeth a ddilynir. Bydd Prentisiaid Modern Sylfaen yn ennill cymwysterau ar Lefel 2 (Lefel TGAU), bydd Prentisiaid Modern yn cael cymwysterau ar Lefel 3 (yr un lefel â Lefelau A neu Diplomau BTEC) a bydd hyfforddedigion sy'n gwneud Diploma Sgiliau Modern yn cael cymwysterau lefel brifysgol fel HNC.
< Yn ôl i’r Brig
Mae'r amser a gymrir yn dibynnu ar y math o gynllun Prentisiaeth a ddilynir - Prentisiaeth Fodern Sylfaen, Prentisiaeth Fodern neu Ddiploma Sgiliau Modern - ac ymroddiad y Prentis.
Gallai Prentisiaeth gael ei chwblhau mewn blwyddyn ond mae fel rheol yn cymryd rhwng 2 a 3 blynedd. Bydd y Coleg yn medru dweud yr union amser a roddir i'r Brentisiaeth sydd gennych chi ddiddordeb ynddo.
< Yn ôl i’r Brig
I ddechrau, wrth gofrestru Prentis, bydd angen i chi gwblhau ychydig o waith papur a bydd angen i'r Prentis wneud hynny hefyd. Bydd y Coleg yn cymryd y cyfrifoldeb am waith papur yr hyfforddiant a'r asesiad wedi hynny.
Bydd adolygiadau rheolaidd rhwng y Coleg, eich hunan a'r hyfforddedig, bob dau fis fel rheol. Bydd adroddiadau am y diweddaraf o'r adolygiadau hyn yn cael eu danfon atoch.
< Yn ôl i’r Brig
Gallech chi recriwtio Prentis eich hunan, ond y ffordd rhwyddaf i chwilio un yw i ffonio eich Coleg lleol ar 0845 345 1041. Byddwch chi'n cael eich trosglwyddo i gyd-drefnydd hyfforddiant yn y gweithle a fydd â rhestr o ymgeiswyr addas.
< Yn ôl i’r Brig
|