MWY AM FU3L?

Hyfforddiant am Ddim yn y Gweithle

Gwyddoch fod cael gweithwyr hyfforddedig ac effeithiol yn bwysicach nag erioed ar gyfer llwyddo mewn busnes. Ond a oeddech chi’n gwybod y gallech chi ennill a datblygu gweithwyr medrus heb orfod talu am eu hyfforddiant?

Mae cynlluniau Prentisiaeth yn eich galluogi chi i wneud yr union beth. Os byddwch chi’n cymryd Prentis ymlaen, bydd costau’r hyfforddiant yn cael ei dalu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a gall unrhyw gwmni yng Nghymru – beth bynnag yw ei faint – gymryd rhan. Ni fydd angen i chi ddarparu’r hyfforddiant hyd yn oed – bydd eich Coleg lleol yn ei ddarparu i chi.

At hyn, ychwanegwch y manteision o daclo’r prinder sgiliau, gwella teyrngarwch staff a chynyddu hyder y cwsmeriaid, a gallai’r cynllun Prentisiaeth fod y datrysiad rydych chi’n edrych amdano.