Byddwch chi eisoes yn gwybod am y ffordd fwy draddodiadol o gael swydd dda a gyrfa llwyddiannus – gwneud Lefelau A neu gyfwerth mewn Coleg neu Ysgol ac yna mynd ymlaen i astudio cymhwyster lefel brifysgol llawn amser.
Ond beth os yw’r person ifanc am fynd allan i weithio’n syth? A oeddech chi’n gwybod y gallant wneud hynny a chael eu cymwysterau? Gwell fyth, gallant hyfforddi mewn swydd a gweithio yr holl ffordd i fyny at lefel brifysgol a thu hwnt.
Fel Prentis, byddant yn gweithio, yn cael profiad ymarferol, yn ennill cyflog llawn amser a chymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol sydd eu hangen ar gyflogwyr. Bydd yn gam mawr i fyny’r ysgol yrfaol ac yn llawer mwy na chael swydd.
Gellir gwneud prentisiaethau mewn bron a bod unrhyw fath o waith gallwch chi feddwl amdano – o Gyfrifeg i Drwsio Cerbydau Modur.