MWY AM FU3L??
Strwythur y Brentisiaeth

Mae gan bob Brentisiaeth ei fframwaith ei hun – pecyn o gymwysterau sy’n ymwneud â’r Brentisiaeth. Bydd eich Coleg lleolyn gyfrifol am sicrhau bod y Prentis yn cael yr hyfforddiant sydd angen arno i gyflawni fframwaith y Brentisiaeth.

Mae fframwaith yn cynnwys 4 elfen:

  • NVQ
  • Sgiliau Allweddol
  • Tystysgrif Dechnegol
  • Hawliau a Chyfrifoldebau Gwaith

Datblygir y fframweithiau gan Gyngor Sgiliau Sector pob diwydiant a sector busnes. Ym mhob Cyngor Sgiliau Sector ceir cyflogwyr, undebau llafur a chyrff proffesiynol o feysydd busnes arbennig. Mae hyn yn sicrhau fod y cymwysterau a astudir yn rhai mae’r cyflogwyr eu hangen yn go iawn ac yn rhai a fydd yn rhoi’r sgiliau sydd angen ar y Prentis i fod yn aelod effeithiol o’r gweithlu.

Felly, i Brentis Modern Sylfaenol mewn Gweinyddiaeth Busnes mae’r fframwaith yn cynnwys:

  • NVQ 2 mewn Gweinyddiaeth
  • Sgiliau Allweddol mewn Cymhwysiad Rhif Lefel 1 a Chyfathrebu Lefel 2
  • Cymhwyster technegol megis Tystysgrif OCR mewn Gweinyddiaeth Busnes Lefel 2
  • Hawliau a Chyfrifoldebau Gwaith

Disgwylir i Brentis Modern Sylfaen mewn Siop Fara astudio:

  • NVQ 2 mewn Gwasanaeth Siop Fara
  • Sgiliau Allweddol Cymhwysiad Rhif Lefel 1, Cyfathrebu Lefel 2 a TG Lefel 1
  • Glanweithdra Bwyd, Iechyd a Diogelwch Sylfaenol a Hawliau a Chyfrifoldebau Gwaith

Ar ôl cwblhau pob un o gymwysterau’r fframwaith bydd y Prentis yn cael Tystysgrif neu Ddiploma yn dangos y cynllun a gyflawnwyd.