Caiff hyfforddiant y Prentis ei dalu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’i weinyddu ar ei rhan gan ELWa. Ni fydd yn costio dim i’r Prentis, y cyflogwr nag i chithau.
Bydd Darparwyr Hyfforddiant, eich Coleg lleol er enghraifft, yn cael eu noddi gan ELWa i gyflwyno’r hyfforddiant a’r asesiad.
Bydd y Prentis yn dilyn rhaglen hyfforddi strwythurol a chymeradwyol a fydd yn arwain at gymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol.