MWY AM FU3L??
Esbonio’r Cymwysterau

Lefelau Astudio
NVQs – Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol
Sgiliau Allweddol
HNC
HND
Gradd Sylfaen


Lefelau Astudio

Mae gan bob cynllun Prentisiaeth ei lefel astudio ei hun. Mae rhif y lefel yn dangos pa mor anodd yw’r cymhwyster ac yn caniatáu i wahanol fathau o gymwysterau i gael eu cymharu yn erbyn ei gilydd. Felly, mae cymhwyster Lefel 2 mewn pwnc academaidd fel Mathemateg yr un mor anodd â cymhwyster Lefel 2 mewn pwnc ymarferol fel Plymwaith.

Lefel 1 - Cymwysterau fel NVQ 1, GNVQ Sylfaen, Diploma neu Dystysgrif Ragarweiniol BTEC
Lefel 2 - Cymwysterau fel NVQ 2, TGAU neu Diplomau Cyntaf BTEC
Lefel 3 - Cymwysterau fel NVQ 3, Lefelau A, Cymwysterau Cenedlaethol BTEC neu Bagloriaeth Ryngwladol
Lefel 4 - Cymwysterau lefel brifysgol fel Tystysgrifau Cenedlaethol Uwch
Lefel 5 - Cymwysterau lefel brifysgol fel Diplomau Cenedlaethol Uwch neu Raddau Sylfaen
Lefel 6 - Lefel Gradd Anrhydedd