MWY AM FU3L??
Cwestiynau a Holir yn Aml

Dyma’r cwestiynau rydych chi’n dueddol o gael eich holi gan yr hyfforddedig posib. Gobeithio bydd yr adran hon yn eich helpu chi i roi atebion cywir a darparu’r wybodaeth mwyaf diweddar.

Os na fyddwch chi’n medru ateb cwestiwn, ffoniwch 0845 345 1041 am fwy o wybodaeth.

Pam bydden ni eisiau bod yn Brentis?
Pa mor hen sy’n rhaid i mi fod er mwyn bod yn Brentis
Oes yna wahanol fathau o Gynlluniau Prentisiaeth?

Pa mor hir bydd Prentisiaeth yn cymryd?
Faint bydda i’n ennill
A fydda i’n cael gwyliau?
Pwy sy’n talu am fy hyfforddiant?
Pwy sy’n rhoi’r hyfforddiant?
Bydd rhaid i fi fynd i’r Coleg?
Pa gymwysterau bydda i’n cael?
Beth galla i wneud wedyn?







Pam bydden ni eisiau bod yn Brentis?

Am fod bod yn Brentis yn golygu y byddi di’n ennill cyflog llawn amser ac yn dysgu ar yr un pryd.

Byddi di’n cael profiad gwaith tra byddi di’n gweithio at gymwysterau a gydnabyddir gan gyflogwyr ym mhobman. Gallu di wneud Prentisiaeth mewn unrhyw fath o waith bron a bod – o Gyfrifeg i Drwsio Cerbyd Modur.

Byddi di hefyd yn cael dy annibyniaeth trwy ennill cyflog a byddi di’n gwella dy obeithion o gael swydd yn y dyfodol trwy ennill sgiliau a chymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol.


 < Yn ôl i’r Brig








Pa mor hen sy’n rhaid i mi fod er mwyn bod yn Brentis?

Cyn belled a dy fod ti dros 16, mae yna gynllun Prentisiaeth i ti – ‘does dim cyfyngiad oedran.

< Yn ôl i’r Brig








Oes yna wahanol fathau o Gynlluniau Prentisiaeth?

Oes, mae dau fath – Prentisiaeth Fodern Sylfaen (FMA) a Phrentisiaeth Fodern (MA).

Gallu di ddechrau Prentisiaeth Fodern Sylfaen heb TGAU, ond mae angen i ti fod yn frwdfrydig ac yn barod i ddysgu. Byddi di’n ennill cymwysterau ar Lefel 2. Dy gam nesaf bydd mynd ymlaen i Brentisiaeth Fodern.

Gallu di ddechrau Prentisiaeth Fodern gydag o leiaf 4 TGAU. Gallu di ddechrau gyda Phrentisiaeth Fodern Sylfaenol hefyd. Byddi di’n gweithio ar Lefel 3. Pan fyddi di wedi diwedd, gallet ti symud ymlaen i Ddiploma Sgiliau Modern sy’n arwain at gymwysterau lefel brifysgol.


< Yn ôl i’r Brig








Pa mor hir bydd Prentisiaeth yn cymryd?

Gall cynllun Prentisiaeth gymryd rhwng 2 a 4 blynedd. Mae’r hyd union yn dibynnu ar y cynllun byddi di’n dewis a pha mor galed byddi di’n gweithio. Pan fyddi di’n dechrau dy Brentisiaeth, byddi di’n cael amser targed i ddiwedd.


< Yn ôl i’r Brig







Faint bydda i’n ennill?

Bydd y swm o arian byddi di’n ennill yn cael ei benderfynu gan dy gyflogwr. Nid oes cyflog sefydlog ar gyfer Prentis. Bydd dy gyflog yn adlewyrchu dy sgiliau, oedran a gallu.



< Yn ôl i’r Brig








A fydda i’n cael gwyliau?

Byddi, byddi di’n cael gwyliau. Bydd hwn yn rhywbeth bydd dy gyflogwr yn ei drefnu gyda ti.

< Yn ôl i’r Brig








Pwy sy’n talu am fy hyfforddiant?

Bydd Cynulliad Cymru’n talu am dy hyfforddiant, felly ni fydd rhaid i ti na dy gyflogwr dalu’r un dimau goch.

< Yn ôl i’r Brig







Pwy sy’n rhoi’r hyfforddiant?

Bydd dy Goleg lleol yn darparu’r hyfforddiant.

Byddi di’n cael Aseswr o’r Coleg a fydd yn dy helpu di ac yn dy gefnogi di drwy gydol dy gynllun hyfforddi. Bydd dy Aseswr yn cwrdd â thi bob 2 i 3 wythnos. Bydd hyn yn rhoi’r cyfle i ti siarad am sut mae pethau’n mynd a chael atborth am sut rwyt ti’n dod ymlaen. Bydd yn arsylwi ac yn asesu dy berfformiad yn y gwaith hefyd ac y gosod targedau ar gyfer yr ymweliad nesaf.

 < Yn ôl i’r Brig








Bydd rhaid i fi fynd i’r Coleg?

Yn dibynnu ar y fframwaith rwyt ti’n dilyn, gallet ti wneud yr hyfforddiant yn y gwaith neu yn y Coleg (diwrnod yr wythnos neu ryddhad bloc).

< Yn ôl i’r Brig








Pa gymwysterau bydda i’n cael?

Tra byddi di’n gweithio fel Prentis, byddi di’n gweithio tuag at dri math o gymhwyster. Mae fframweithiau Prentisiaeth yn cynnwys NVQ, cymwysterau sy’n ymwneud â’r swydd a Sgiliau Allweddol. Byddi di hefyd yn cael hyfforddiant ar hawliau a chyfrifoldebau gwaith.

Bydd dy NVQ ar Lefel 2 neu 3 yn dibynnu ar y math o gynllun Prentisiaeth rwyt ti’n gwneud. Bydd y cymhwyster sy’n benodol i’r swydd yn ymwneud yn uniongyrchol â dy waith. Gallai hwn fod yn rhywbeth fel BTEC neu gymhwyster City & Guilds a bydd yn rhoi mwy o wybodaeth a dealltwriaeth i ti am y gwaith rwyt ti’n gwneud.

Yn ogystal â’r rhain byddi di’n astudio Sgiliau Allweddol hefyd. Mae yna ddewis o 6, a bydd y rhai byddi di’n astudio’n amrywio yn ôl y Brentisiaeth byddi di’n dewis.

< Yn ôl i’r Brig








Beth galla i wneud wedyn?

Trwy dy Brentisiaeth byddi di wedi ennill cymwysterau a gaiff eu parchu’n fawr. Rwy ti wedi dod cyn belled â hyn, pam na arhosi di yn y gwaith, cario ymlaen i ennill gyda chwrs hyfforddi arall yn y gweithle a mynd â dy gymwysterau a phrofiad gam ymhellach? Gallet ti hyfforddi’r holl ffordd i fyny at lefel brifysgol.

< Yn ôl i’r Brig